Ysgol Bro Pedr

Bocs Becso - Worry Box

Ein Gweledigaeth
Our Vision

Yn unol â’n harwyddair ‘A fo ben bid bont’, mae ein gweledigaeth yn cwmpasu adeiladu a chryfhau sylfeini’r bont er mwyn galluogi ein disgyblion i gamu ymlaen ar daith addysgol hapus a llwyddiannus ble mae’r holl ddisgyblion yn cyflawni eu potensial unigol. Ein nod yn Ysgol Bro Pedr yw cynnig cyfoeth o brofiadau addysgol ac allgyrsiol gwerthfawr a chynhwysfawr a darpariaeth academaidd heriol a chynhwysol i holl ddisgyblion yr ysgol a hynny mewn amgylchedd gadarnhaol ac ofalgar. Mae’r ysgol yn hyrwyddo ein gwerthoedd ac mae disgwyliadau a safonau uchel yn greiddiol i holl agweddau o fywyd yr ysgol. Ein nod yw darparu addysg a chwricwlwm bydd yn paratoi’r disgyblion ar gyfer byd gwaith ac i fod yn ddinasyddion cyfrifol bydd yn cyfrannu’n hyderus i’w cymunedau.

Ein dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yw eu bod yn datblygu i fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywydau a’u gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae gweledigaeth Ysgol Bro Pedr wedi’i seilio ar werthoedd craidd yr ysgol sef:

  • Cyfrifoldeb
  • Caredigrwydd
  • Hapusrwydd
  • Empathi
  • Gonestrwydd
  • Uchelgais
  • Dyfalbarhad
  • Cydraddoldeb
  • Parch
  • Perthyn

  • In line with our motto 'A fo ben bid bont', our vision encompasses building and strengthening the foundations of the bridge in order to enable our pupils to progress on a happy and successful educational journey where all pupils fulfill their individual potential. Our aim at Ysgol Bro Pedr is to offer a wealth of valuable and comprehensive educational and extracurricular experiences and a challenging and inclusive academic provision for all the school's pupils in a positive and caring environment. The school promotes our values ​​and high expectations and standards are at the core of all aspects of school life. 

    Our aim is to provide an education and curriculum that will prepare the pupils for the world of work and to be responsible citizens they will contribute confidently to their communities. Our aspiration for all children and young people is that they develop into:Our aspiration for all children and young people is that they develop into:

    • ambitious, capable learners who are ready to learn throughout their lives
    • enterprising, creative contributors who are ready to play their full part in their lives and work
    • principled, informed citizens who are ready to be citizens of Wales and the world
    • healthy, confident individuals who are ready to live life realizing their aspirations as valuable members of society.

    Ysgol Bro Pedr's vision is based on the school's core values ​​which are:

    • Responsibility
    • Kindness
    • Happiness
    • Empathy
    • Honesty
    • Ambition
    • Perseverance
    • Equality
    • Respect
    • Belonging